Mae Caffi Wylfa yn fenter gymdeithasol ar Ffordd y Castell, Y Waun. Mae’r caffi 60 sedd yn fodern ac yn steilus gyda theimlad agored ac ysgafn. Rydyn ni’n gwneud ymdrech fawr i gefnogi a defnyddio cyflenwyr lleol hyd y mae’n bosibl a byddwn yn gweini bwyd ffres o gynhwysion o’r safon gorau sy’n cael eu paratoi gyda gofal a sylw ar y safle.
Mae yn y Caffi amrywiaeth blasus o fwyd yn cynnwys ciniawau ysgafn, byrbrydau poeth ac oer, cacennau a the hufen o sgonau ffres, jam mefus a hufen tolch.
Mwynhewch gwpaned ffres o goffi sy’n cael ei ddewis yn gyfrifol a chadwch mewn cysylltiad – ewch ar y rhyngrwyd drwy’r system Wi-Fi am ddim sydd ar gael i’n holl gwsmeriaid.
Mae croeso i grwpiau a phartïon mewn bysiau ond byddai’n well rhoi rhybudd ymlaen llaw.
Cynigir yr ystafell gymuned gyfagos i grwpiau a chymdeithasau’r gymuned leol yn ad hoc ac mae am ddim.
Yn agored saith diwrnod yr wythnos o 10am – 5pm (yn hwyrach yn y tymor brig).
Lawr lwythwch sampl o fwydlen Caffi Wylfa
Lawr lwythwch ffurflen logi’r Ystafell Gymuned
Lawr lwythwch daflen telerau ac amodau’r Ystafell Gymuned