Mae amrywiaeth o daflenni ar gael yn yr adran wrth ymyl Caffi Wylfa. Bydd y rhain yn help i ymwelwyr gynllunio eu harhosiad yn ac o gwmpas ardal hardd y Waun. Felly, os ydych chi’n trefnu taith fusnes, antur hanesyddol, gwyliau teulu, digwyddiad lleol neu daith ddiwrnod syml; dyma’r lle i ddechrau! Mae gennym yr holl wybodaeth wrth law fydd yn gwella eich arhosiad ac, wrth i chi bori drwy’r wybodaeth, beth am fwynhau byrbryd blasus neu goffi wedi’i wneud â llaw yn ein caffi gyda’r bonws ychwanegol o Wi-Fi am ddim.
Dymunwn ymweliad hapus i chi.